Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i lofruddiaeth dyn 24 mlwydd oed yn trin ei farwolaeth fel trosedd gasineb yn erbyn rhywun ag anabledd.

Cafodd Lee Irving, oedd ag anawsterau dysgu ac a gafodd ei ddisgrifio fel rhywun oedd yn “agored i niwed”, ei ddarganfod ar dir glaswellt yn Newcastle ddydd Sadwrn.

Mae pedwar dyn ac un ddynes wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.