Neuadd Pantycelyn
Mae staff cyfrwng Gymraeg Prifysgol Aberystwyth wedi rhyddhau llythyr yn datgan cefnogaeth i amcanion ymgyrch myfyrwyr i achub Neuadd Pantycelyn.
Fis diwethaf fe gafodd myfyrwyr y neuadd breswyl glywed bod Pwyllgor Cyllid a Strategaeth y brifysgol wedi argymell cau Pantycelyn ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, oherwydd bod angen gwneud gwaith atgyweirio ar yr adeilad.
Ers hynny mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) wedi mynnu y byddan nhw’n parhau i brotestio yn erbyn cynlluniau’r brifysgol.
Ac mae nifer o’u darlithwyr a staff y brifysgol nawr wedi ymuno â’r galw ar Brifysgol Aberystwyth i ystyried pwysigrwydd y neuadd breswyl, sydd yn ganolfan draddodiadol i’r myfyrwyr cyfrwng Cymraeg.
Yn ôl y staff, sydd wedi disgrifio’r neuadd breswyl fel safle “pwysig ac eiconig ym mywyd cyhoeddus Cymru”, mae angen i’r brifysgol roi ymrwymiad clir am eu cynlluniau i’w hailagor os ydyn nhw am ei chau.
Bygwth yr “ethos Cymraeg”
Mewn datganiad dydd Llun, fe ddywedodd staff cyfrwng Cymraeg Prifysgol Aberystwyth bod hanner cant ohonyn nhw wedi cyfarfod i drafod sefyllfa’r neuadd breswyl, a chytuno i alw ar y brifysgol i wneud tri ymrwymiad “clir a chyhoeddus”.
Awgrymodd y staff y gallai’r ansicrwydd dros ddyfodol y ddarpariaeth llety Cymraeg effeithio ar “lefelau boddhad myfyrwyr cyfrwng Cymraeg cyfredol”, yn ogystal â bod â “goblygiadau sylweddol i waith recriwtio myfyrwyr”.
Petai’r elfennau hynny’n cael eu heffeithio, yn ôl y staff, fe allai hynny olygu goblygiadau hir dymor i’r “ddarpariaeth dysgu cyfrwng Cymraeg, swyddi dysgu a gweinyddol cyfrwng Cymraeg ac ethos Cymraeg a Chymreig y Brifysgol”.
Mae golwg360 ar ddeall bod y llythyr, sydd wedi’i arwyddo gan yr aelodau staff Gwenan Creunant, Rhys Dafydd Jones, a Huw Lewis, wedi cael ei gyflwyno i’r brifysgol.
Galwadau’r staff
Yn y llythyr mae’r staff wedi galw ar Brifysgol Aberystwyth i wneud tri ymrwymiad, gan efelychu gofynion tebyg y mae’r myfyrwyr eisoes wedi eu cyflwyno yn eu hymgyrch.
Yn gyntaf, dywedodd y staff cyfrwng Cymraeg “ei bod yn gwbl hanfodol bod y Brifysgol yn ymrwymo’n glir i’r egwyddor sylfaenol o ddarparu llety dynodedig cyfrwng Cymraeg i’w myfyrwyr, ac y dylai’r ymrwymiad hwn gynnwys cydnabyddiaeth bod angen i leoliad o’r fath gynnwys gofodau cyffredin addas a digonol sy’n caniatáu i fywyd cymdeithasol cyfrwng Cymraeg ffynnu”.
Yn ail, maen nhw’n disgrifio Neuadd Pantycelyn fel rhywle sydd “wedi dod i hawlio safle pwysig ac eiconig ym mywyd cyhoeddus Cymru”.
“Yn sgil hynny, credir ei fod yn adnodd y dylid ei barchu ac y dylid ei harneisio’n llawn i hybu datblygiad pellach addysg uwch gyfrwng Cymraeg,” meddai’r datganiad.
“O ganlyniad, dylai’r Brifysgol ddatgan mewn modd diamwys mai ei bwriad yw sicrhau parhad Pantycelyn fel llety Cymraeg yn y tymor hir. Ymhellach, dylai amlinellu mewn manylder y camau y bwriedir eu cymryd er mwyn gwireddu’r amcan hwn gan gyhoeddi amserlen bendant ar gyfer y gwaith.
‘Llety addas’
Wrth gydnabod y gallai bod angen i Brifysgol Aberystwyth orfod cau’r neuadd breswyl dros dro er mwyn gwneud gwaith adnewyddu, mae’r olaf o ofynion y staff yn mynnu bod angen cynlluniau clir dros bryd allai’r myfyrwyr cyfrwng Cymraeg ddychwelyd yno.
“Os yw Pantycelyn i gau am gyfnod er mwyn gwneud gwaith adnewyddu angenrheidiol, [dylai] fod dyletswydd ar y Brifysgol i sicrhau darpariaeth ddynodedig gyfrwng Cymraeg amgen yn ei lle,” meddai’r staff.
“Dylai’r ddarpariaeth amgen hon fod o natur addas a dylai adlewyrchu dealltwriaeth o’r hyn sydd ei angen er budd rhwydweithiau cymdeithasol cyfrwng Cymraeg y myfyrwyr. Ymhellach, dylai fod yn ddarpariaeth sefydlog ar gyfer y cyfnod interim tra bod Pantycelyn ar gau – ni ddylai’r Brifysgol fodloni ar drefniant sy’n amrywio o flwyddyn i flwyddyn.
“Gelwir ar y Brifysgol i gadarnhau natur ei threfniadau amgen mor fuan â phosib ac i gyfathrebu hynny’n glir i fyfyrwyr a staff cyfredol, darpar fyfyrwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol.”
Y brifysgol yn ymateb
Mae Prifysgol Aberystwyth bellach wedi ymateb i’r llythyr gan y staff cyfrwng Gymraeg, gan fynnu mewn datganiad y byddan nhw’n sicrhau lle addas i’r gymuned o fyfyrwyr Cymraeg “ffynnu” os ydyn nhw’n gorfod symud o Bantycelyn.
“Mae Prifysgol Aberystwyth yn gwbl ymroddedig i ddarparu llety dynodedig cyfrwng Cymraeg lle mae’r iaith Gymraeg yn cael ei siarad bob dydd, lle gall y rhai sy’n dysgu’r iaith ymgolli mewn cymuned naturiol Gymraeg, a lle mae gweithgareddau diwylliannol Aelwyd Pantycelyn, gweithgareddau cymdeithasol y myfyrwyr a gwaith ymgyrchu Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) yn medru ffynnu,” meddai’r datganiad.
“Eisoes cafwyd trafodaethau gyda chynrychiolwyr o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ar y ddarpariaeth llety a gofod gymunedol fydd ar gael i’r gymuned Gymraeg, os na fydd ei chartref presennol ym Mhantycelyn ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.
“Bydd y llety hwn wrth galon campws Penglais, o fewn tafliad carreg i rai o’r adrannau mwyaf poblogaidd ymysg siaradwyr Cymraeg, ac yn cynnig gofod cymdeithasol a chymunedol hael er mwyn hwyluso parhad yr ymdeimlad o gymuned ar y cyd ymhlith y myfyrwyr. Mae’r Brifysgol hefyd wedi sicrhau’r darpar fyfyrwyr sydd wedi gwneud cais am le ym Mhantycelyn, y bydd lle iddynt yn y llety newydd.
“Mi fydd y penderfyniad parthed dyfodol Pantycelyn yn cael ei wneud gan Gyngor y Brifysgol ar yr 22ain o Fehefin. Mae’r cynnig a fydd yn cael ei ystyried gan y Cyngor yn galw am gymryd y camau nesaf i adeiladu ar gyfraniad Gweithgor Pantycelyn, i ddatblygu cynigion manwl ar ddyfodol Pantycelyn, gan gymryd i ystyriaeth y galw am lety cyfrwng Cymraeg, blaenoriaethau’r Brifysgol ac argaeledd cyllid angenrheidiol, ac i wneud y gwaith hwn mewn ymgynghoriad llawn ag UMCA a chorff y myfyrwyr.
“Daw’r cynnig i ddarparu llety amgen yn sgil adroddiad gan Weithgor Pantycelyn sy’n nodi’r galw am fuddsoddiad o rhwng £5.5m ac £11m i adnewyddu adeilad Pantycelyn.”