Fe gafodd y  gwasanaethau brys eu galw i hen safle Alwminiwm Môn yn gynnar y bore yma ar ôl adroddiadau o “ffrwydrad” ar y safle.

Roedd rhan o’r A55 ar gau am gyfnod byr yn dilyn yr alwad, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, ond mae’r ffordd bellach wedi ei hailagor.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ar ôl adroddiadau o dân a mwg ar y safle ger Caergybi am 3.30yb ddydd Llun.

Cafodd y ffordd ei chau wrth i griwiau archwilio’r safle, cyn cael ei hailagor ar ôl i’r safle gael ei datgan yn ddiogel.

Mae un injan dân ar y safle o hyd, sydd dal ar gau, ond mae disgwyl iddo ailagor yn ddiweddarach heddiw.