Mark Drakeford
Fe fydd cyfarfod yn cael ei gynnal heddiw i ystyried a ddylid rhoi Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig yn dilyn methiannau yn y gofal yn ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd.

Mae disgwyl i’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford, Arolygaeth Iechyd Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal trafodaethau heddiw i ystyried a oes angen cymryd camau pellach yn erbyn y bwrdd iechyd.

Daw hyn ar ôl yr adroddiad damniol gafodd ei chyhoeddi oedd wedi canfod “camdriniaeth sefydliadol” yn ward iechyd meddwl Tawel Fan.

Eisoes mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira, wedi galw am ei gwneud yn haws i erlyn pobl sydd yn esgeuluso cleifion, ac mae’r AC Llafur Ann Jones wedi dweud y dylai prif weithredwr y bwrdd iechyd ymddiswyddo.

‘Newid i’r arweinyddiaeth’

Yn ôl eu teuluoedd roedd y cleifion oedd ar ward Tawel Fan yn cael eu trin fel anifeiliaid mewn sw, cyn i’r ward gael ei chau ym mis Rhagfyr 2013.

Mae’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford eisoes wedi dweud ei fod am gyfarfod teuluoedd y cleifion “pan fo’r amser yn iawn” i drafod y mater ymhellach.

Mae cwynion yn erbyn deg aelod o staff eisoes wedi cael eu cyfeirio at gyrff proffesiynol, ond mae Heddlu Gogledd Cymru wedi penderfynu peidio â chymryd camau pellach ar ôl ymchwilio i’r honiadau o gamdriniaeth.

Ond yn ôl yr Aelod Cynulliad dros Ddyffryn Clwyd, Ann Jones, fe ddylai prif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yr Athro Trevor Purt ymddiswyddo.

Dywedodd yr AC wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC ei bod “yn deall mai newidiadau yn arweinyddiaeth y bwrdd iechyd allai fod y ffordd ymlaen”.