Senedd Holyrood yn yr Alban
Mae Llafur wedi dweud y byddan nhw’n cyflwyno gwelliannau i wella’r ddarpariaeth les yn yr Alban er mwyn amddiffyn yn erbyn beth maen nhw’n ei ddisgrifio fel “y gwaethaf gan y Torïaid”.

Bydd Mesur yr Alban yn cael ei drafod yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, ac mae disgwyl i Weinidog Cysgodol yr Alban Ian Murray alw am ddatganoli mwy o bwerau lles i Holyrood.

Mae’r SNP hefyd wedi dweud y byddan nhw’n pwyso i geisio cael rhagor o bwerau treth, lles, creu swyddi a chyflogau i gael eu datganoli i’r Alban.

“Pwerau newydd sylweddol”

Yn ôl Ysgrifennydd yr Alban, y Ceidwadwr David Mundell, mae’r Mesur yn adlewyrchiad o ymroddiad y llywodraeth i wireddu ei haddewid i gyflwyno rhagor o ddatganoli i’r Alban.

“Mae’r ffaith mai Mesur yr Alban fydd y ddeddfwriaeth gyntaf i gael ei thrafod yn y sesiwn newydd yn anfon arwydd clir a chryf mai ein bwriad ni yw parhau â’r busnes o ddarparu pwerau newydd sylweddol i’r Alban,” meddai David Mundell.

Mae hynny wedi cael ei feirniadu gan yr SNP, fodd bynnag, sydd wedi mynnu nad yw’r llywodraeth Geidwadol wedi gweithredu ar holl argymhellion y Comisiwn Smith ar ddatganoli pellach i’r Alban.

Wfftio hynny wnaeth llywodraeth San Steffan, sydd yn dweud eu bod yn gweithredu’r argymhellion yn llawn.

Ond mae’r SNP wedi dadlau y dylai’r pecyn o bwerau fydd yn cael eu datganoli gael ei gryfhau, a hynny ar ôl buddugoliaeth ysgubol i blaid yn yr Alban yn yr etholiad cyffredinol fis yn ôl.

Datganoli lles tai

Yn ôl y cynlluniau Llafur fydd yn cael eu cyflwyno heddiw, fe fyddai Senedd yr Alban yn cael pwerau terfynol dros gyfraddau lles yn ogystal â phwerau i greu ei budd-daliadau lles ei hunain.

Byddai Senedd yr Alban hefyd yn cael pwerau llawn dros les tai, yn ogystal â’r hawl i roi budd-daliadau lles ychwanegol mewn meysydd sydd wedi cael eu datganoli.

“Bydd rhagor o ddatganoli yn gallu amddiffyn y rhai mwyaf bregus yn yr Alban yn erbyn y gwaethaf gan y Torïaid,” meddai Ian Murray.

“Bydd y pwerau newydd sylweddol sydd yn dod i’r Alban yn rhoi’r cyfle i ni wneud pethau’n wahanol, fel na fydd llywodraeth adain dde fyth eto’n gallu gosod y dreth ystafell wely ar deuluoedd sydd yn ei chael hi’n anodd.

“Fe ddylai’r gair olaf ar fudd-daliadau sydd yn cael eu talu yn yr Alban gael eu gwneud yn yr Alban.”