Milwyr yn yr Wcrain
Mae David Cameron yn gobeithio y bydd neges gadarn yn cael ei hanfon i Rwsia gan arweinwyr gwledydd y gorllewin wrth i gynhadledd gwledydd yr G7 ddod i ben yn yr Almaen.

Bu’r Prif Weinidog yn cynnal trafodaethau neithiwr ynglŷn â’r Wcráin gydag Arlywydd yr Unol Daleithiau Barack Obama lle’r oedd y ddau wedi cytuno bod angen parhau gyda sancsiynau llym yn erbyn Rwsia nes bod Moscow yn dangos ei bod wedi cydymffurfio a chadoediad Minsk.

Ond yn ystod y cyfarfod roedd Barack Obama wedi mynegi pryderon y gallai toriadau yn y  DU olygu bod Prydain yn gwario llai na tharged Nato o 2% o’i Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) ar y lluoedd arfog.

Er iddo ddweud wrth arweinwyr eraill yng nghynhadledd Nato yng Nghasnewydd y llynedd bod angen cyrraedd y targed o 2%, mae David Cameron wedi gwrthod ymrwymo’r DU i gwrdd â’r targed ar ôl mis Mawrth 2016.

Mae’n dweud y bydd yn rhaid aros nes bod y Canghellor George Osborne yn cyhoeddi ei adolygiad gwariant yn yr hydref.

Fe fydd arweinwyr yr UE yn gorfod penderfynu mewn cynhadledd ym Mrwsel ar ddiwedd mis Mehefin a ydyn nhw am barhau gyda’r sancsiynau yn erbyn Rwsia yn dilyn y gwrthryfel yn yr Wcráin.