David Cameron
Mae David Cameron wedi rhybuddio ei weinidogion y bydd yn rhaid iddyn nhw ymddiswyddo os ydyn nhw eisiau ymgyrchu dros gael Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd y Prif Weinidog, sydd mewn cyfarfod o wledydd y G7, na fyddai’r llywodraeth yn aros yn “niwtral” pan fyddai’r refferendwm yn cael ei chynnal.

Yn hytrach fe fynnodd fod pob aelod o’i lywodraeth yn cefnogi ei strategaeth ef, sef sicrhau digon o ddiwygiadau yn ystod trafodaethau ag Ewrop i allu argymell aros yn yr Undeb.

Dal yn ystyried 2016

Cyfaddefodd David Cameron ei fod yn parhau i gadw “meddwl agored” ynglŷn ag amseru’r refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd, gan olygu y gallai ddigwydd ar 5 Mai 2016 o hyd.

Ond mae’r Comisiwn Etholiadol wedi rhybuddio na ddylid cynnal y bleidlais ar y diwrnod hwnnw, gan y byddai hynny’n golygu ei fod yn digwydd yr un pryd ag etholiadau Cynulliad Cymru, Senedd yr Alban, Maer Llundain a chynghorau yn Lloegr.

“Os ydych chi eisiau bod yn rhan o’r llywodraeth mae’n rhaid i chi fod o’r farn ein bod ni’n cynnal y trafodaethau er mwyn cael refferendwm fydd yn arwain at ganlyniad llwyddiannus,” meddai’r Prif Weinidog.

“Mae pawb yn y llywodraeth wedi cytuno i’r rhaglen gafodd ei osod allan ym maniffesto’r Ceidwadwyr.”

Obama am i Brydain aros

Wrth siarad ar ddechrau’r gynhadledd, fe awgrymodd Arlywydd yr UDA Barack Obama y byddai’n well gan America weld Prydain yn aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

“Does gennym ni ddim partner agosach ar draws y byd ar nifer o faterion,” meddai Barack Obama.

“Bydden i’n nodi mai un o’r prif fanteision o gael y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd yw ei harweinyddiaeth a’i chryfder wrth ddelio â phob math o sialensiau rhyngwladol.

“Felly rydyn ni’n edrych ymlaen at y Deyrnas Unedig yn aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd achos rydyn ni’n meddwl bod ei dylanwad yn bositif nid yn unig i Ewrop, ond hefyd i’r byd.”

Eraill yn herio

Mae rhai Ceidwadwyr o’r meinciau cefn eisoes wedi dweud fodd bynnag y byddan nhw’n barod i ymgyrchu dros adael yr Undeb Ewropeaidd os nad ydyn nhw’n gweld diwygiadau sylweddol ym mherthynas Prydain ac Ewrop.

Mae dros 50 o Aelodau Seneddol Ceidwadol, gan gynnwys y cyn-weinidogion Owen Paterson a John Redwood, eisoes wedi ymuno â’r grŵp newydd Conservatives for Britain (CfB) i wthio am ddiwygiadau sylweddol.

Dywedodd cadeirydd y CfB, yr AS Steve Baker, y byddai “dwsinau” o ASau Torïaidd yn pleidleisio dros adael Ewrop nawr os nad oedd “newid sylweddol”, gan ddweud y byddai’n disgwyl i ambell aelod o’r Cabinet ymuno â nhw.

“Os nad ydyn ni’n cael Senedd sofran, bydden i’n synnu’n fawr os nad yw un neu ddau ddim yn ymddiswyddo. Ond byddai hynny’n fater iddyn nhw,” meddai ar BBC Radio 5 Live.