The Smiler yn Alton Towers
Fe fydd Alton Towers yn ailagor i’r cyhoedd heddiw ar ôl gorfod cau yn dilyn damwain ar atyniad The Smiler yn y parc pan gafodd pedwar o bobl eu hanafu’n ddifrifol.

Mae’r parc yn Swydd Stafford wedi bod ar gau ers dydd Mawrth a dywedodd prif weithredwr Merlin Entertainments, sy’n berchen y parc eu bod nhw eisiau sicrhau bod pobl yn “teimlo’n hyderus” wrth ymweld ag Alton Towers.

Cafodd 16 o bobl eu hanafu ar y rollercoaster, The Smiler pan darodd cerbyd yn erbyn cerbyd arall a oedd wedi dod i stop ar y trac.

Mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch a’r heddlu wedi bod yn cynnal ymchwiliad.