Mae ymchwiliad yn parhau’r bore ma wedi i ddau ddyn farw ar ôl mynd i drafferthion wrth nofio ger rhaeadr yn Llanberis.

Cafwyd hyd i gyrff y ddau ddyn, 33 a 21 oed, ar ôl i’r gwasanaethau brys gael eu galw i’r safle ger rheilffordd yr Wyddfa fore ddydd Sul.

Cafodd dau ddyn arall, 27 a 25 oed, eu cludo i’r ysbyty am driniaeth cyn cael eu rhyddhau yn ddiweddarach.

Cafodd  Heddlu’r gogledd eu galw am 8.30 fore ddoe ynghyd a’r gwasanaeth ambiwlans, hofrennydd o’r Fali, y Gwasanaeth Tân a thîm achub mynydd Dyffryn Ogwen.

Cafwyd hyd i gorff y dyn 33 oed yn gynharach ddoe, ac fe ddaeth cadarnhad bod corff dyn 21 oed wedi’i ddarganfod yn y prynhawn.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Roedd digwyddiad ger rhaeadr yn agos i Reilffordd yr Wyddfa pan aeth pedwar o ddynion oedd wedi bod yn nofio yn yr ardal i drafferthion.”