Mae pennaeth pwyllgor sy’n ymchwilio i honiadau o dwyll gan rai o swyddogion Fifa wedi dweud y gallai Rwsia a Qatar golli’r hawl i gynnal Cwpan y Byd yn 2018 a 2022 pe baen nhw’n euog o weithredu’n anghyfreithlon.

Mae’r pwyllgor, fel rhan o’u hymchwiliad, yn ymchwilio i’r broses oedd wedi arwain at ddewis Rwsia a Qatar i gynnal y gystadleuaeth.

Does dim tystiolaeth eto fod yr un o’r ddwy wlad wedi gweithredu’n anghyfreithlon.

Ddiwedd mis diwethaf, cafodd saith o swyddogion Fifa eu harestio mewn gwesty yn y Swistir fel rhan o ymchwiliad awdurdodau’r Unol Daleithiau i dwyll.

Cafodd y llywydd Sepp Blatter ei ail-ethol yn ddiweddarach, ond penderfynodd ymddiswyddo yn dilyn y sgandal.

Dydy ymchwiliad presennol yr Unol Daleithiau ddim yn cynnwys cystadlaethau 2018 a 2022, ond fe allai’r broses gael ei harchwilio gan yr FBI maes o law.

Mae’r ddwy wlad yn gwadu eu bod nhw wedi gweithredu’n anghyfreithlon.

Yn ystod yr ymchwiliad, mae Cymdeithas Bêl-droed De Affrica wedi gwadu eu bod nhw wedi “prynu’r hawl” i gynnal Cwpan y Byd yn 2010.

Cafodd yr honiadau eu gwneud gan Chuck Blazer, un o swyddogion Fifa, sydd wedi cyhuddo’r Gymdeithas o dalu hyd at 10 miliwn o ddoleri i is-lywydd Fifa, Jack Warner.

Mae Warner yn cael ei gadw yn y ddalfa gan heddlu Trinidad cyn iddo gael ei estraddodi i’r Unol Daleithiau, ond mae’n gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.