Cymerodd 1,500 o bobol ran mewn gorymdaith trwy dref Narbonne heddiw er cof am flaenasgellwr eu clwb rygbi, Jerry Collins.

Cafodd Collins – gynt o’r Gweilch – a’i wraig Alana Madill eu lladd pan darodd bws yn erbyn eu car fore Gwener.

Gwisgodd cefnogwyr a chwaraewyr Narbonne ddillad oren a du – liwiau swyddogol y clwb – ar gyfer yr achlysur.

Yn ystod yr orymdaith, cafodd blodau a theyrngedau eu gadael ger llun o Collins ar lwyfan arbennig a gafodd ei osod ar gyfer yr orymdaith.

Un o’r rhai oedd wedi cymryd rhan yn yr orymdaith oedd cefnder Collins, Chris Masoe, y dyn oedd wedi adnabod corff Collins yn dilyn y gwrthdrawiad.
Mae cronfa wedi cael ei sefydlu i godi arian ar gyfer babi tri mis oed y cwpwl.