Daeth ras triathlon i ben yn gynnar yn Y Bala heddiw yn dilyn marwolaeth cystadleuydd.

Daeth cadarnhad o’r newyddion ar dudalen Twitter y corff llywodraethu, British Triathlon.

Dywedodd British Triathlon eu bod nhw’n “flin iawn” fod y ras wedi cael ei chanslo, ond nad oedd unrhyw un arall ynghlwm wrth farwolaeth y cystadleuydd.

Ychwanegon nhw fod y teulu wedi cael gwybod, ac na fydden nhw’n gwneud sylw pellach ar hyn o bryd.