Mae lladron wedi dwyn llafn para-athletwr sy’n gobeithio cystadlu dros Iwerddon yn y Gemau Paralympaidd yn Rio de Janeiro y flwyddyn nesaf.

Collodd Shane McLaughlin, 42, ei goes wedi iddo gael ei anafu gan anifail ar fferm.

Mae McLaughlin, sy’n hanu o sir Monaghan yn Iwerddon, wedi bod yn chwilio’r ffyrdd yn nhref Clones ers oriau man fore ddoe yn y gobaith o ddod o hyd i’r cyfarpar prin sy’n ei alluogi i gystadlu.

Cafodd y llafn ei ddwyn o gar McLaughlin y tu allan i’w gartref dros y penwythnos.

Mae McLaughlin yn cystadlu yn y siot a’r ddisgen yng nghystadleuaeth Agored Berlin yr wythnos nesaf, ond mae’n wynebu talcen caled heb ei lafn wrth iddo geisio am le yng ngharfan genedlaethol Iwerddon.

“Dw i wedi fy siomi’n llwyr. Mae hyn wedi mynd â fi nôl i’r diwrnod wnes i golli fy nghoes. Mae’r llafn yn rhan o ’mywyd i, fe gafodd ei ddylunio ar fy nghyfer i.

“Ar hyn o bryd, dw i mewn trafodaethau gyda fy hyfforddwr a dw i’n dweud wrtho ’mod i’n meddwl rhoi’r gorau iddi.”

Dywed McLaughlin y byddai defnyddio coes ffug anaddas tra’n cystadlu’n boenus ac y byddai’n niweidio’i berfformiad.

Mae’r Gardai – heddlu Iwerddon – yn ymchwilio i’r digwyddiad.