Mae cronfa wedi cael ei sefydlu er mwyn cefnogi babi tri mis oed cyn-flaenasgellwr y Gweilch, Jerry Collins.

Cafodd Collins a’i wraig Alana Madill eu lladd wedi i fws daro yn erbyn eu car yn nhref Beziers wrth iddyn nhw deithio adref o ginio.

Cafodd eu merch Ayla ei thynnu o’r car ac mae hi mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, er y bu ychydig o welliant yn ei chyflwr dros y penwythnos.

Y gobaith yw codi 25,000 o ddoleri Seland Newydd trwy’r gronfa – mae 9,000 o ddoleri eisoes wedi’i roi.

Dywedodd y teulu yng Nghanada eu bod nhw bellach yn canolbwyntio’n llwyr ar roi eu cefnogaeth i Ayla wrth iddi barhau yn yr ysbyty.