Mae’r rhedwr 1,500 metr Mo Farah wedi tynnu’n ôl o’r Grand Prix yn Birmingham heddiw oherwydd blinder dwys.
Roedd disgwyl iddo gystadlu yn y ras 1,500 metr ond fe fydd e’n dychwelyd i’r Unol Daleithiau, lle mae’n hyfforddi, er mwyn cynnal trafodaethau gyda’i hyfforddwr Alberto Salazar, sydd wedi’i gyhuddo o gynnig cyffuriau i’w athletwyr.
Does dim tystiolaeth ar hyn o bryd fod Mo Farah wedi cymryd cyffuriau.
Mewn datganiad, dywedodd Mo Farah: “Mae’r wythnos hon wedi bod yn un llawn straen ac mae wedi cymryd tipyn allan ohonof fi.”
Dywedodd fod y mater wedi effeithio arno’n “emosiynol ac yn gorfforol”.
Ymddiheurodd wrth y dorf oedd yn disgwyl ei weld yn cystadlu, gan ofyn am ddealltwriaeth o’i sefyllfa.
Dywedodd Farah ddoe fod ganddo fe a Salazar berthynas dda.
“Dw i ddim yn gadael Alberto, am y rheswm nad ydw i wedi gweld unrhyw dystiolaeth amlwg.”
Ychwanegodd fod y sefyllfa’n “annheg”.
Honnodd rhaglen Panorama y BBC nos Fercher fod Salazar wedi rhoi cyffuriau i’r Americanwr Galen Rupp, oedd yn ail i Farah yn y ras 10,000 metr yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012.
Bu Salazar yn hyfforddi Mo Farah ers 2011.
Mae Salazar a Rupp yn gwadu’r honiadau.