Y Frenhines
Mae gohebydd gyda’r BBC yn wynebu camau disgyblu ar ôl trydar bod y Frenhines yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Bu’n rhaid i’r BBC ymddiheuro am sylwadau Ahmen Khawaja, sydd wedi ennyn ymateb ar wefannau cymdeithasol gan rai pobol sy’n pryderu am iechyd y Frenhines.
Roedd y Frenhines yn yr ysbyty heddiw ar gyfer ei harchwiliad meddygol blynyddol.
Dywedodd y neges ar Twitter: “Newyddion yn torri. Mae’r Frenhines Elizabeth yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Brenin Edward VII yn Llundain. Datganiad i ddilyn.”
O ganlyniad, bu’n rhaid i Balas Buckingham, yn groes i’w harfer, gyhoeddi datganiad i gadarnhau nad yw’r Frenhines yn wael.