Cafodd gweithiwr mewn sied awyrennau ei wasgu i farwolaeth ar ôl i ddarnau o awyren mewn storfa ddisgyn arno, clywodd llys yng Nghaergrawnt heddiw.
Roedd penaethiaid cwmni CAV Aerospace Limited, oedd yn gyfrifol am stoc y sied awyrennau ym maes awyr Caergrawnt, wedi anwybyddu rhybuddion blaenorol oedd yn dweud bod y darnau metel wedi’u pentyrru’n rhy uchel.
Fe wnaeth hynny arwain at farwolaeth Paul Bowers, 47 ym mis Ionawr 2013, clywodd y llys.
Mae’r cwmni – sydd a’i bencadlys yn Consett yn Sir Durham a safleoedd eraill yng Nglannau Dyfrdwy, Llantrisant, Caerlŷr a Chaergrawnt – yn gwadu cyhuddiadau o ddynladdiad a thorri rheolau diogelwch.
Mae’r achos yn parhau.