Amber Peat
Daeth yr heddlu sy’n ymchwilio i ddiflaniad merch 13 oed o Mansfield o hyd i gorff neithiwr.

Aeth Amber Peat ar goll o’i chartref oddeutu 5.30 brynhawn Sadwrn yn dilyn ffrae â’i theulu.

Mae Heddlu Swydd Nottingham wedi rhoi gwybod i’w theulu bod corff wedi’i ddarganfod, ac maen nhw’n dweud nad ydyn nhw’n trin y farwolaeth fel un amheus.

Dydy’r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto.

Daeth y newyddion oriau’n unig wedi i’w mam a’i llystad apelio arni i ddychwelyd adref.

Roedd y teulu newydd ddychwelyd o’u gwyliau yng Nghernyw pan ddiflannodd hi.