The Smiler yn Alton Towers
Mae rheolwyr Alton Towers wedi gwrthod dweud pryd fydd y parc yn Swydd Stafford yn ail-agor ar ôl i 16 o bobl gael eu hanafu mewn damwain ar atyniad Smiler ddoe.

Cafodd pedwar o bobl ifanc – dau ddyn 27 ac 18 oed a dwy ferch 17 ac 19 oed – anafiadau difrifol i’w coesau ar ôl i gerbyd daro yn erbyn cerbyd arall ar y reid.

Dywedodd Nick Varney, prif weithredwr Merlin Entertainments sy’n cynnal y parc, nad oedd system dechnegol, sydd wedi’i chynllunio i atal damweiniau o’r fath, “yn gweithio fel y dylai fod wedi gwneud.”

Ychwanegodd bod y digwyddiad ddoe yn “anarferol ac yn ddamwain drasig iawn,” a bod y tîm wedi’u “tristau’n ofnadwy” gan yr hyn ddigwyddodd.

Bu’n rhaid i’r 12 o bobl eraill ar y reid – chwe dyn a chwe dynes – gael triniaeth feddygol.

Fe wnaeth Nick Varney y penderfyniad neithiwr i gau’r parc ac nid oedd yn gallu dweud pryd y bydd yn ail-agor, gydag ymchwiliadau’n cael eu cynnal i achos posib y ddamwain. Bydd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn rhan o’r ymchwiliad.

Fe agorodd The Smiler ddwy flynedd yn ôl ar gost o £18 miliwn ac mae wedi cael ei gau ddwywaith oherwydd problemau technegol.