Mae dyn oedd yn cael ei wylio gan yr heddlu a’r FBI ar amheuaeth o droseddau brawychol wedi cael ei saethu’n farw yn ninas Boston.

Cafodd Usaama Rahim ei saethu wedi iddo ymosod ar blismon ac asiant FBI gyda chyllell y tu allan i fferyllfa.

Aeth yr heddlu at Rahim fore ddoe i’w holi ynghylch tystiolaeth oedd ganddyn nhw ei fod wedi bod yn rhan o weithgarwch brawychol.

Roedden nhw wedi ei orchymyn sawl gwaith i ollwng ei gyllell cyn ei saethu.

Cafodd Rahim, 26, ei gludo i’r ysbyty lle fu farw.

Dydy’r awdurdodau ddim wedi cadarnhau manylion eu hymchwiliad yn ei erbyn, ond fe ddywedodd llefarydd eu bod nhw wedi bod yn cynnal ymchwiliad ers cryn amser.

Mae adroddiadau bod Rahim wedi cael ei radicaleiddio gan bropaganda’r Wladwriaeth Islamaidd, ond dydy hynny ddim wedi cael ei gadarnhau.

Dywed yr heddlu bod fideo yn dangos Rahim yn mynd atyn nhw gyda chyllell, ond dywedodd ei frawd ei fod yn sefyll wrth arosfan bws i fynd i’r gwaith.

Mae dyn arall, David Wright, wedi cael ei arestio mewn perthynas â’r ymchwiliad i weithgarwch Rahim.

Mae cofnodion yn dangos bod Rahim wedi’i gofrestru fel myfyriwr a’i fod yn swyddog diogelwch ym Miami yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Dywed yr awdurdodau nad yw’r cyhoedd mewn perygl yn sgil yr achos.