O fis Medi bydd ysgolion yng ngogledd Cymru yn ymuno â mudiad elusennol Teach First, er mwyn ceisio gwella cyflawniad addysgol disgyblion yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad.

Fe fydd yr ysgolion yn awdurdodau lleol Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam yn ymuno a’r cynllun sydd wedi bod ar waith yn y de ers dwy flynedd.

Disgwylir i 60 o athrawon newydd fod yn rhan o’r cynllun yn 2015 ac y bydd 7,500 o ddisgyblion yn elwa arno.

Er bod tipyn o ffordd i fynd i leihau’r bwlch o ran cyflawniad yng Nghymru, yn ôl yr elusen, mae rhai arwyddion bod y sefyllfa yn dechrau gwella.

Dywedodd Jennifer Owen-Adams, Cyfarwyddwr Gwlad Teach First Cymru:

“Sefydliad ifanc ydym, ond rydym eisoes wedi dechrau cael effaith addawol, diolch i’n cydweithrediad â Choleg y Drindod Dewi Sant Prifysgol Cymru a’n hysgolion partner. Mae penaethiaid yn y gogledd wedi cael eu hysbrydoli gan eu cymheiriaid yn y de, sydd wedi tanio eu brwdfrydedd i ymuno â’r mudiad.”