Nicola Sturgeon
Fe fydd Prif Weinidogion Cymru a’r Alban, Carwyn Jones a Nicola Sturgeon yn cyfarfod yng Nghaeredin y prynhawn ma.

Dyma’r tro cyntaf i’r ddau arweinydd gwrdd ers i Sturgeon ddod yn Brif Weinidog yr Alban.

Byddan nhw’n cwrdd yn Nhŷ Bute ym mhrifddinas yr Alban.

Mae disgwyl iddyn nhw drafod refferendwm arfaethedig ar aelodaeth gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd, a chynlluniau i ddileu’r Ddeddf Hawliau Dynol.

Mae’r ddau arweinydd yn gytûn ynghylch mater Ewrop, ond yn anghydweld ynghylch awgrym Sturgeon y dylai pedair gwlad Prydain gytuno cyn iddi gael ei thynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd.