Mae ysgolion Cymru yn dechrau cael budd o wasanaethau sy’n cael eu darparu gan y consortia addysg – bedair blynedd wedi i’r Llywodraeth gyhoeddi’r cynllun.

Dyna gasgliad adroddiad newydd ar y cyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a chorff Estyn sy’n cael ei gyhoeddi heddiw. 

Cafwyd “dechrau ansicr” i’r cynllun yn ôl y cyrff arolygu ond bellach mae’r sylfeini ar gyfer pedwar gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol yn cael eu sefydlu.

Fodd bynnag, mae ansicrwydd ynghylch rôl a diben y consortia, meddai’r adroddiad. Nodwyd hefyd y bu diffyg cynllunio, prinder ffocws ar werth am arian a gwendidau wrth lywodraethu’r consortia.

Cefndir

Yn 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod am i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaeth gwella ysgolion drwy bedwar consortiwm addysg rhanbarthol.

Bu’r consortia yn cael eu datblygu ers hynny ac, ers 2014, maent wedi bod yn dilyn ‘Model Cenedlaethol ar gyfer Gweithio’n Rhanbarthol’ Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Estyn bod gwelliant graddol wedi bod yng nghyrhaeddiad disgyblion yn y pedwar rhanbarth yng Nghymru, er na ellir priodoli hyn i ddatblygu consortia yn unig.

“Er ei bod yn braf gweld bod cynnydd yn cael ei wneud wrth bennu her addysgol effeithiol yng Nghymru, mae gwaith i’w wneud o hyd cyn y gallwn ddeall yn llawn buddiannau’r dull hwn o weithredu,” meddai’r Archwilydd Huw Vaughan Thomas.

“Drwy gynnal yr astudiaeth ar y cam cynnar hwn, gobeithio y bydd y canfyddiadau yn helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu’r consortia yn llwyddiannus a chefnogi canlyniadau plant a phobol ifanc yng Nghymru.”

Ymateb

Dywedodd Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru bod y consortia wedi “ymateb yn dda” i’r adroddiad.

“Mae’n braf dweud bod y consortia rhanbarthol wedi ymateb yn dda i adborth y tîm gwaith maes ac maent eisoes yn ymdrin â llawer o’r materion a godwyd yn yr adroddiad.”

Ond mae angen mwy o waith yn ôl Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus:

“Ar y cam cynnar hwn, mae’n glir bod angen mwy o waith i sicrhau bod y consortia’n gwbl effeithiol ac i wella prosesau cydweithio’r holl bartneriaid sy’n cymryd rhan.

“Mae’n hanfodol bod ysgolion yn cael eu herio a’u cefnogi’n effeithiol er mwyn helpu i wella’r canlyniadau ar gyfer plant yng Nghymru, ac felly bydd yn hollbwysig mynd i’r afael yn llwyr â’r gwendidau a nodwyd yn y gwaith.”