i fydd achos yn cael ei gynnal yn erbyn yr Arglwydd Greville Janner tros honiadau o gam-drin rhywiol hanesyddol, cyhoeddodd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS).

Er bod y cyhuddiadau yn ei erbyn yn “ddifrifol iawn”, ni fyddai’n briodol cynnal yr achos am fod y cyn-wleidydd Llafur yn dioddef o ddementia, meddai’r CPS.

Roedd yr Arglwydd Janner, 86, yn AS yng Nghaerlŷr am 27 mlynedd ac yn 2013, fe wnaeth yr heddlu gynnal cyrch yn ei dy yng ngogledd Llundain.

Roedd  dros ddwsin o bobol wedi gwneud cwyn yn ei erbyn am achosion o gam-drin rhywiol – y rhan fwyaf ohonyn nhw yn blant mewn cartrefi gofal yn yr ardal rhwng 1970 ac 1980.

Un o’r prif gyhuddiadau yn erbyn Greville Janner oedd ei fod wedi sefydlu cyfeillgarwch gyda rheolwr y cartref er mwyn cael cam-drin y plant.

Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron na fydd yn cael ei erlyn oherwydd difrifoldeb ei ddementia sy’n golygu nad yw’n ddigon iach i gymryd rhan mewn achos llys ac nad oes unrhyw risg y bydd yn ail-droseddu.

Ond dywed Heddlu Sir Caerlŷr bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi gwneud “y penderfyniad anghywir” a’u bod yn ystyried pa gamau y gallen nhw eu cymryd i herio’r penderfyniad.