Ni fydd David Cameron a Nick Clegg yn cymryd rhan yn y ddadl
Fe fydd arweinwyr pump o’r prif bleidiau gwleidyddol yn mynd benben mewn dadl deledu arall heno, yn absenoldeb y Prif Weinidog David Cameron ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg.

Mewn rhaglen 90 munud o hyd, bydd arweinwyr Plaid Cymru, Llafur, SNP, Y Blaid Werdd a UKIP yn cyflwyno araith agoriadol cyn ateb cwestiynau gan y gynulleidfa, dan arweiniad David Dimbleby.

Mae disgwyl i Leanne Wood, Nicola Sturgeon, a Natalie Bennett roi pwysau ar arweinydd yr wrthblaid Ed Miliband tra bydd Nigel Farage yn ymosod arno o’r dde.

Cyn yr ornest, mae Plaid Cymru wedi herio Llafur i roi’r gorau i’w ymrwymiad i doriadau’r Ceidwadwyr: “Mae pobol wedi cael hen ddigon o bleidiau gwleidyddol yn taflu baw at ei gilydd yn ystod ymgyrchoedd etholiadol,” meddai Leanne Wood.

Ymateb cymysg

Yn dilyn y ddadl deledu gyntaf, oedd yn cynnwys y saith arweinydd, dangosodd arolwg gan YouGov mai  Nicola Sturgeon wnaeth berfformio orau, Nigel Farage yn ail a Leanne Wood oedd ola’.

Ar hyn o bryd, mae’r polau’n dangos nad yw Llafur na’r Torïaid wedi gwneud digon i ennill mwyafrif yn Senedd San Steffan, gyda rhai yn awgrymu adferiad yng nghefnogaeth y Torïaid.

Mae David Cameron a Nick Clegg wedi gwrthod cymryd rhan yn y ddadl heno, a hynny wedi ennyn ymateb cymysg gan sylwebwyr a’r cyhoedd.

Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar BBC1 am 8:00yh.