Mae “mwy o gerddoriaeth nag erioed” wedi ei drefnu ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau yr haf hwn, yn ôl y trefnwyr.

Y criw cyntaf o artistiaid sydd wedi eu cadarnhau gan yr Eisteddfod heddiw ac a fydd i’w clywed ar faes y Brifwyl a Maes B yw:

Candelas, Geraint Jarman, Bryn Fôn a’r Band, Al Lewis Band, Y Reu, Yr Eira, Bromas, Cowbois Rhos Botwnnog, Casi, Breichiau Hir, Trwbz, DJ Huw Stephens, Palenco, Geraint Lovgreen, Osian Howells, Brython Shag, Gwyneth Glyn, Sera Owen, Sorela, Meic Stevens, Anelog, Gwenan Gibbard, Meinir Gwilym a Bob Delyn a’r Ebillion.

Bydd rhagor o artistiaid yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf a’r tocynnau yn mynd ar werth ar 22 Ebrill.

‘Cyfnod da i’r Sîn’

Meddai Guto Brychan, trefnydd Maes B ac un o gydlynwyr cerddoriaeth ar draws y Maes: “Mae mwy o gerddoriaeth nag erioed yn yr Eisteddfod eleni.

“Mae’r sin yn mynd drwy gyfnod arbennig o dda ar hyn o bryd, gydag amrywiaeth eang o artistiaid yn perfformio yn y Gymraeg.  Gobeithio ein bod ni wedi llwyddo i adlewyrchu’r amrywiaeth a’r safon yn yr arlwy ar y Maes eleni.

“Rydym wedi mynd ati i geisio sicrhau cydbwysedd rhwng rhai o enwau mawr y sin a rhoi llwyfan hefyd i artistiaid ifanc sy’n cychwyn ar eu gyrfa hefyd.”

Fel sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwetha’, bydd perfformiadau byw ar draws y Maes – ar  Lwyfan y Maes, yng Nghaffi Maes B a’r Tŷ Gwerin – a gyda’r hwyr bydd y gerddoriaeth yn parhau ym Maes B.