Dr John Davies
Mae dwy o raglenni ffeithiol S4C wedi ennill gwobrau Arian ac Efydd mewn gŵyl deledu a ffilm nodedig yn yr Unol Daleithiau.

Cafodd Gwobr Arian yn y categori Bywgraffiad/Portread ei chyflwyno i raglen Gwirionedd y Galon: Dr John Davies yng Ngŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2015.

Yn ogystal â hynny, fe gafodd Gwobr Efydd ei chyflwyno i’r gyfres dair rhan Adam Price a Streic y Glowyr yn y categori Hanes a Chymdeithas.

Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i raglenni S4C ennill yn y gwobrau, gafodd eu cynnal yn Las Vegas nos Fawrth.

Gwobr ‘ingol’

Roedd rhaglen Gwirionedd y Galon: Dr John Davies a gynhyrchwyd gan gwmni Telesgop yn bortread gonest o’r diweddar hanesydd Dr John Davies gafodd ei darlledu yn 2013, y flwyddyn y dathlodd ei ben-blwydd yn 75 oed.

Cafodd cyfres Adam Price a Streic y Glowyr gan Tinopolis hefyd gryn dipyn o ganmoliaeth yn y cyfryngau, gan ddilyn y gwleidydd ar daith bersonol drwy Streic y Glowyr 1984-85.

Ac fe ddywedodd Comisiynydd Cynnwys Ffeithiol S4C, Llion Iwan, ei bod hi’n “ingol” bod rhaglen John Davies wedi cael y fath glod mor fuan yn dilyn ei farwolaeth.

“Rwy’n falch iawn o lwyddiant y ddau gynhyrchiad, yn enwedig am eu bod nhw wedi rhoi llwyfan rhyngwladol i bynciau sydd o bwys i dreftadaeth a diwylliant Cymreig,” meddai Llion Iwan.

“Mae’r gyntaf yn bortread o ffigwr a gyfrannodd fwy na neb i ddealltwriaeth y genedl o hanes ein gwlad, a’r ail yn gyfres sy’n darlunio un o’r cyfnodau mwyaf cythryblus yn ein hanes diweddar.

“Mae’n arbennig o ingol bod y rhaglen Gwirionedd y Galon wedi derbyn yr anrhydedd hon mor fuan wedi marwolaeth Dr John Davies ym mis Chwefror. Mae’r wobr yn deyrnged iddo ef.”

Llynedd fe enillodd Taith Fawr y Dyn Bach (Cwmni Da) Wobr Arian yng nghategori Achosion Dynol y gwobrau, a derbyniodd y rhaglen Karen (Cwmni Da) Wobr Efydd yn yr un categori.

A nôl yn 2013 fe wnaeth y ddogfen Fy Chwaer a Fi (Bulb Films, rhan o Boom Pictures Cymru) ennill Gwobr Aur yn y categori Achosion Dynol.