Super Furry Animals
Mae trefnwyr gŵyl gerdd fwyaf Prydain, Glastonbury, wedi cyhoeddi bod y Super Furry Animals ymhith y rhai fydd yn performio eleni.

Yn ymuno a’r band o ardal Bethesda, a oedd wedi cyhoeddi ychydig dros fis yn ol eu bod am ddod at ei gilydd eto i berfformio, mae’r band o Landudno Catfish and the Bottlemen.

Pharrell Williams, Florence And The Machine, Foo Fighters, Lionel Richie a Kanye West yw rhai o’r prif artistiaid fydd yn denu’r dorf i Wlad yr Haf.

Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal rhwng  24-28 Mehefin yn Worthy Farm ac fel arfer yn croesawu tua 175,000 o bobol o bob cwr o’r byd.

Dyma’r lein-yp llawn sydd wedi ei gyhoeddi ar hyn o bryd.