Alex Jones
Bydd cyflwynwraig The One Show, Alex Jones, yn dychwelyd i Gymru ddiwedd mis Mai i gyflwyno cyngerdd agoriadol Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch.
Bydd y cyngerdd yn cael ei gynnal nos Sul, 24 Mai yn y pafiliwn ar Faes yr Eisteddfod, sydd eleni ar dir Llancaiach Fawr ger Nelson.
Yn cyd-gyflwyno gydag Alex Jones bydd Tim Rhys Evans, arweinydd Only Men Aloud, sydd yn wreiddiol o Dredegar Newydd.
Yn perfformio ar y noson, bydd Matt Johnson yn canu fersiwn Eisteddfod yr Urdd o ‘Cân Jên’, a gafodd ei chanu’n wreiddiol gan Edward H Dafis, a chôr bechgyn Only Boys Aloud ddaeth yn drydydd yn y rhaglen Britain’s Got Talent yn 2012.
Yn ymuno gyda hwy bydd y gantores o Ferthyr, Kizzy Crawford a Huw Euron, canwr ac actor o Gaerffili enillodd y rhuban glas yn Eisteddfod Genedlaethol 2010.
‘Cefnogol iawn’
Dywedodd Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Sion: “Rydym yn hynod o falch fod Alex Jones wedi cytuno i ddychwelyd i Gymru i gyflwyno cyngerdd agoriadol yr Eisteddfod. Mae Alex wastad wedi bod yn gefnogol iawn i’r Urdd, ac yn parhau felly.
“Mae hefyd, wrth gwrs, yn wych fod Tim, Matt a’r llu o artistiaid eraill, sydd wrth gwrs yn dod o ardal yr Eisteddfod, wedi cytuno i fod yn rhan o’r cyngerdd a’n bod yn gallu cynnig cyngerdd o’r safon uchaf mewn cae yn Nelson!
“Dyna sy’n braf am Eisteddfod yr Urdd – rydym yn symud lleoliad yn flynyddol ac yn gallu cynnig profiadau a chyngherddau gwefreiddiol mewn lleoliadau na fyddai’n gallu cynnig unrhyw beth tebyg fel rheol.”
Mae tocynnau ar gyfer y cyngerdd agoriadol ar gael nawr o wefan yr Eisteddfod – urdd.cymru/eisteddfod neu trwy ffonio 0845 257 1639.