Bydd ymgais swyddogol i dorri record byd am y pellter mwyaf rhwng dau berson sy’n canu deuawd yn rhan o ddathliadau Diwrnod Cerddoriaeth y BBC eleni.
Bydd dau berson yn cyd ganu 7,000 o filltiroedd ar wahân – gydag un yng Nghaerdydd ac un ym Mhatagonia. Dyw enwau’r cantorion heb gael eu cyhoeddi hyd yn hyn.
Bydd y digwyddiad, a fydd hefyd yn cynnwys Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn nodi 150 mlynedd ers sefydlu’r Wladfa Gymreig yn yr Ariannin.
Heddiw mae’r BBC yn cyhoeddi Diwrnod Cerddoriaeth gyntaf y gorfforaeth, ar 5 Mehefin 2015, a fydd yn dathlu cerddoriaeth ar draws y DU.
Bydd y darllediad o’r ymgais i dorri record y byd gan Radio Cymru hefyd yn cael ei gyd-ddarlledu yn fyw ar BBC Radio Wales a BBC Radio 3.
‘Ymgais arloesol’
Meddai Craig Glenday, prif olygydd Guinness World Records: “Rydym yn falch iawn o fod yn bartneriaid â Diwrnod Cerddoriaeth y BBC ac i gael beirniadu ymgais arloesol ar gyfer y pellter mwyaf rhwng pobl sy’n canu deuawd.
“Cafodd yr her hon ei dewis i ddangos sut mae gan gerddoriaeth y pŵer i ddod â phobl at ei gilydd, boed yn y gymuned leol neu yn fyd-eang.”
Hefyd yng Nghymru fel rhan o’r diwrnod, bydd One Direction a’r Manic Street Preachers yn perfformio yng Nghaerdydd a bydd artistiaid prosiect Gorwelion BBC Cymru hefyd yn perfformio.