Anfield
Fe fydd dyn yn mynd gerbron llys wedi’i gyhuddo o hedfan awyrennau dibeilot dros gaeau pêl-droed a nifer o fannau enwog yn Llundain.
Mae Nigel Wilson, 42 oed o Nottingham, yn wynebu 17 cyhuddiad o dorri rheolau hedfan, yn ogystal â methu cadw rheolaeth ar dronau tros Balas Buckingham a San Steffan.
Ymhlith y caeau pêl-droed y buodd y drônau’n hedfan drostyn nhw roedd Anfield a Stadiwm Emirates.
Mae Nigel Wilson hefyd wedi’i gyhuddo o beidio cadw at reolau llwybrau hedfan sydd mewn grym er mwyn lleihau nifer damweiniau awyr.
Mae disgwyl i Wilson fynd gerbron Llys Ynadon Westminster fis nesaf.
‘Cyfrifoldeb’
Dywedodd llefarydd ar ran yr Awdurdod Hedfan Sifil: “Gallwn gadarnhau ein bod ni wedi cynorthwyo’r heddlu wrth baratoi’r erlyniad hwn.
“Mae rheolau a rheoliadau clir yn eu lle o ran hedfan drônau yn y DU a chyfrifoldeb defnyddwyr yw treulio amser yn deall y rheolau hynny’n llawn.”