George Osborne
Mae disgwyl i’r Canghellor George Osborne gyflwyno ei Gyllideb olaf o’r Senedd hwn yn Nhŷ’r Cyffredin am 12.30 heddiw. Gwenllian Mai Elias sy’n dilyn y cyhoeddiad ar ran golwg360…

12:30 – Llywodraeth Prydain wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd yn y blynyddoedd diwethaf’ ond maen nhw wedi gweithio, medd George Osborne. Mae Prydain yn sefyll yn gadarn unwaith eto.

12:34 – Y canghellor yn dweud bod yr Economi wedi tyfu yn gynt nag unrhyw wlad arall. Mwy o swyddi ym Mhrydain nag erioed o’r blaen. Cynlluniau economaidd yn gweithio.

12:36 – Y bwriad yw i Brydain dyfu i fod yr economi gryfaf yn y byd, medd George Osborne.

12:37 – Lindsay Hoyle yn gorfod tawelu’r gwleidyddion.

12:39 – George Osborne yn dweud bod economi Prydain wedi tyfu o 2.6% y llynedd, yn ol adroddiad yr OBR.

12:40 – Disgwyl i’r economi dyfu o 2.5% eleni. Mae George Osborne yn amddiffyn ei benderfyniad i ymuno a’r Banc Buddsoddiad Isadeiledd Asiaidd.

12:44 – Mae’r Canghellor wedi dechrau son am swyddi. Rhagolwg diweithdra i lawr i 5.3% ar gyfer y flwyddyn nesaf. Honni fod hyn ar ei isaf ers 1975a bod 1,000 o swyddi wedi cael eu creu bob diwrnod yn ystod y Llywodraeth yma.

12:46 – Bydd yr isafswm cyflog yn codi i £8 erbyn diwedd y degawd. Y rhai ar gyflogau isaf sy’n elwa fwyaf pan mae’r economi’n gwella, medd George Osborne.

12:49 – Cadarnhau y bydd punt newydd, fydd yn cynrychioli Prydain gyfan, yn cael ei greu.

12:50 – Troi i drafod dyledion Prydain. Bydd asedau morgais Northern Rock a Bradford and Bingley, £13bn, yn cael eu gwerthu.

Bydd asedau Banc Lloyds gwerth £9bn hefyd yn cael eu gwerthu.

12:54 – Bydd y ddyled genedlaethol yn llai ar ddiwedd y Senedd hon nag oedd hi ar y dechrau, meddai. Er bod y ddyled wedi codi dros y bum mlynedd ddiwetha’.

12:57 – Eleni, mae disgwyl i fenthyca syrthio i £90.2bn – £1bn yn llai na gafodd ei ddarogan yn Natganiad yr Hydref. Bydd yn syrthio eto yn 2015-16 i £75bn.

13:02 – Mae cyfleoedd wedi gwella ac mae mwy o bobol o gefndiroedd tlawd yn mynd i’r brifysgol, yn ôl George Osborne. Mae’n cyhoeddi mwy o gymorth i wasanaethau iechyd.

13:04 – Lwfans rhyddhau pensiwn  yn cael ei dorri o £1.25m i £1, ond llai na 4% o bobol fydd yn cael eu heffeithio, meddai.

13:05 – Mae’n cyhoeddi mesurau i fynd i’r afael âg osgoi trethi sy’n cynnwys adolygiad o dreth etifeddiaeth.

13:08 – Cyhoeddi £25m i helpu pobol hyn fu’n gwasanaethu yn y fyddin, sy’n cynnwys adnewyddu amgueddfa’r llu awyr yn Hendon.

13:10 – Cyllid ychwanegol i adeiladu tai yn Llundain.

13:14 – Bydd Cymru yn cael mwy o bwerau. Mae’n gweithio ar gynlyn i wella canol dinas Caerdydd. Y Llywodraeth hefyd yn cefnogi cynllun Lagŵn Llanw Abertawe.

Y Canghellor hefyd yn cyhoeddi mwy o gyllid ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Bydd yr arian yn dod o ddirwyon LIBOR.

13:15 – Bydd toriadau i dollau Pont Hafren o 2018 ymlaen.

13:17 – Bydd diwydiant olew Mor y Gogledd yn gweld toriadau trethi gwerth £1.3bn. Mae’n dweud bod y gostyngiad ym mhris olew yn peri bygythiad i’r diwydiant.

13:20 – Mae’r Canghellor eisiau gwneud yn siwr bod cysylltiad band cyflym ar gael i bron bob cartref ym Mhrydain.

13:21 – Bydd treth corfforaeth yn cael ei dorri o 20% ym mis Ebrill, meddai.

13:22 – Bydd y ffurflenni dychwelyd trethi yn cael eu diddymu a ffurflenni digidol cymryd eu lle. “Dylai pobol fod yn gweithio iddyn nhw’u hunain yn hytrach nag i’r dyn treth” meddai’r Canghellor.

13:23 – 1c i gael ei dorri o bris toll peint o gwrw. Toll ar seidr a wisgi disgyn o 2% hefyd.

Yn ogystal, fe fydd yn cynnydd yn y toll ar betrol oedd i fod i gael ei gyflwyno ym mis Medi yn cael ei sgrapio.

13:25 – Y Lwfans Treth Bersonol yn codi o £10,600 i £10,800 y flwyddyn nesa’ ac yna i £11,000 y flwyddyn wedyn. O ganlyniad, fe fydd y treth dalwr cyffredin yn osgoi talu treth ar £900 yn ychwanegol , yn ôl Osborne.

13:30 – Bydd ISA fwy hyblyg yn cael ei gyflwyno. Bydd pobol yn medru cymryd arian o’u cyfri a’i roi yn ôl heb gael eu cosbi, meddai. Fydd y banciau ddim yn codi treth ar y £1000 cyntaf fydd yn cael ei roi i mewn i gyfrif chwaith. Hyn am ddod i rym yn yr Hydref.

Bydd ISA i bobol sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yn cael ei gyflwyno hefyd lle bydd y Llywodraeth yn talu £50 am bob £200 sy’n cael ei gynilo ar gyfer blaendal ar dy.

13:32 – Mae George Osborne yn dod at ddiwedd ei araith. I gloi, mae’n dweud: “Dyma’r Gyllideb i Brydain – y wlad sydd am fownsio nôl”.