Mae un o brif swyddogion Prifysgol Bangor wedi cael ei beirniadu am hawlio treuliau gwerth bron i £50,000 mewn ychydig dros flwyddyn.

Yn ôl ffigyrau ddaeth i law rhaglen Y Byd ar Bedwar, ac a ddarlledwyd ar S4C neithiwr, fe wariodd cyfarwyddwr datblygu Prifysgol Bangor Sheila O’Neal, mewn ychydig dros flwyddyn:

* £1,320.92 ar dacsis,

* £14,677.72 ar westai,

* £19,077.63 ar deithiau awyr,

* £5,428.85 ar fwyd a diod.

Cafodd y costau eu cofnodi rhwng mis Hydref 2013 a mis Rhagfyr 2014.

Mae Cais Rhyddid Gwybodaeth gan y rhaglen hefyd wedi datgelu bod y Brifysgol wedi gwario bron i ddeg mil a hanner er mwyn anfon pedwar aelod blaenllaw o staff Prifysgol Bangor i Efrog Newydd i weld sioe Swenney Todd gyda Bryn Terfel.

‘Di-angen’

Mae Llywydd Undeb Myfyrwyr Bangor, Rhys Taylor, yn dweud bod yna gwestiynau mawr i’w gofyn ynglŷn â’r gwariant: “Dw i ddim yn meddwl bod unrhyw angen i anfon y staff draw i Efrog Newydd ar gyfer y daith yma,” meddai.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod y penderfyniadau yma’n cael eu trafod yn fwy agored gyda gweddill y Brifysgol, gan gynnwys myfyrwyr ac aelodau staff.”

Yr aelodau o staff hynny a aeth ar y daith oedd Is-ganghellor y Brifysgol, John Hughes, ei wraig Dr Xinyu Wu, sy’n gyfarwyddwr datblygu rhyngwladol, cyfarwyddwr artistig canolfan gelfyddydol newydd Pontio, Elen ap Robert, a Sheila O’Neal.

Wrth ymateb i’r ffigyrau ar Y Byd ar Bedwar, dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Simon Thomas ei fod yn meddwl y byddai “gwell defnydd i’w hadnoddau yn sicrhau bod gwaith adeiladu Pontio wedi gorffen ar amser, yn hytrach na hedfan mas i Efrog Newydd.”

Cyfiawnhad

Mae Prifysgol Bangor wedi ceisio cyfiawnhau’r daith ar draws Fôr yr Iwerydd drwy ddweud mai’r pwrpas oedd hyrwyddo canolfan newydd Pontio ar lwyfan rhyngwladol.

Roedd y cyfarfodydd, yn ôl y brifysgol, yn cynnwys cyfarfodydd ag “ymgynghorwyr addysgol a phartneriaid newydd posib a chwrdd â rhoddwyr posib a chefnogwyr”.

Pan ofynnodd y rhaglen faint o arian oedd wedi ei godi gan y daith i Efrog Newydd, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor ei bod hi’n “anodd priodoli un cyfraniad penodol i un digwyddiad neu daith benodol.

‘Rhaglen uchelgeisiol’

Wrth ymateb i’r swm a wariwyd gan Sheila O’Neal ar ei theithiau tramor, dywedodd llefarydd fod y Brifysgol wedi “llwyddo i godi £2.2m ers i Ms O’Neal ddechrau ar ei swydd yn hydref 2013

“Mae’r treuliau ynghlwm â’r swydd yma’n uwch na rhai eraill o fewn y brifysgol, mae hyn oherwydd ei fod yn dilyn rhaglen uchelgeisiol o godi arian.”

Ond dywedodd y Brifysgol nad oedd hi’n bosib nodi faint yn union yr oedd Sheila O’Neal ei hun wedi ei godi, ar wahân wrth ei hadran.

Patrwm tebyg yn Aberystwyth?

Mae myfyrwyr Aberystwyth hefyd wedi bod yn codi cwestiynau ynglyn â blaenoriaethau ariannol eu Prifysgol dros y blynyddoedd diwetha’.

Ers penodi Is-ganghellor newydd y Brifysgol, April McMahon, yn 2011, mae’r Brifysgol wedi disgyn 38 safle yng nghynghrair prifysgolion y Complete University Guide, yn ogystal â gweld gostyngiad yn nifer y myfyrwyr. Ond mae cyflog yr Is-ganghellor wedi cynyddu i £243,000 y flwyddyn.

Yn ôl Hanna Merrigan, sy’n fyfyrwraig drydedd flwyddyn yn Aberystwyth ac yn ddarpar-Lywydd UMCA, gallai’r arian hyn fod yn cael ei ddefnyddio’n well.

“Ma’ angen gwario’r arian ma’ hi [April McMahon] yn ei ennill ar bethe gwell yn y Brifysgol, nid ar ei chyflog hi,” meddai.

“Roedd gan y Brifysgol Aberystwyth enw da iawn… ond bellach does gan y Brifysgol ddim enw da. A dwi ddim yn gwybod beth yw dyfodol y Brifysgol os yw’n parhau i ddisgyn yn y tablau. Mae angen gwneud rhywbeth mawr er mwyn newid.”

Mae’r Brifysgol hefyd wedi bod yn buddsoddi’n sylweddol dramor, gan wario dros £21,000 ar daith i Malaysia yn rhoi gradd anrhydedd i aelod o deulu brenhinol y wlad, ac maen nhw wrthi’n agor campws newydd ym Mauritius.

Wrth ymateb i’r ffigyrau hyn, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth eu bod nhw wedi mynychu pedair ffair hyrwyddo yn ystod y daith, yn ogystal â chyflwyno’r anrhydedd i ffigwr uchel ei barch ym Malaysia.

Roedden nhw hefyd yn pwysleisio bod eu gwariant ar deithiau tramor i ddenu myfyrwyr yn is na 10% o’r incwm a grëwyd gan fyfyrwyr o dramor, a bod y gwariant yn briodol.