Fe fydd dyn 32 oed o ardal Abertawe yn ymddangos gerbron llys y mis nesaf ar gyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.
Bu farw Jayne Parker, 47 oed, yn y ddamwain ar yr A4216 yn Abertawe ar 10 Rhagfyr y llynedd.
Fe fydd y dyn yn ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ar 29 Ebrill.