Mae’r awdurdodau yn Indonesia wedi rhoi’r gorau i chwilio am ragor o gyrff yn dilyn damwain awyren AirAsia dros Fôr Java.
Roedd 162 o bobol ar fwrdd awyren Airbus A320-200 pan aeth ar goll ar Ragfyr 28 ar hediad o Surabaya i Singapor.
Gofynnodd criw yr awyren am gael dringo o 32,000 o droedfeddi i 38,000 o droedfeddi er mwyn osgoi cymylau trymion, ond cafodd eu cais ei wrthod.
Dydy hi dal ddim yn glir beth yn union achosodd y ddamwain.
Mae 106 o gyrff eisoes wedi cael eu darganfod yng ngweddillion yr awyren, ond daeth y chwilio i ben yn llwyr neithiwr.
Daeth y chwilio i ben yn swyddogol ar Fawrth 3, ond roedd timau bychain wedi bod yn parhau ar raddfa lai ar gais y teuluoedd yn ystod y pythefnos diwetha’.
Mae disgwyl i’r teuluoedd ymweld â’r safle yr wythnos nesa’, i osod blodau.