Mae arweinwyr sydd o blaid ymreolaeth i ranbarthau yn nwyrain yr Wcráin yn bygwth troi eu cefn ar y cadoediad heddwch.
Dywed pennaeth rhanbarth Donetsk, Alexander Zakharchenko ac arweinydd gwleidyddol Luhansk, Igor Plotnitsky fod deddfwriaeth yn rhoi statws arbennig i’w rhanbarthau wedi cael ei gwanhau gan welliannau.
Asgwrn y gynnen yw fod y ddeddfwriaeth newydd yn mynnu bod rhaid cynnal etholiadau arbennig cyn i’r statws arbennig ddod i rym.
Dywed y ddau eu bod nhw’n barod i ymladd unwaith eto oni bai bod llywodraeth yr Wcráin yn ildio i’w dymuniadau.
Mae mwy na 6,000 o bobol wedi cael eu lladd ers i’r brwydro ddechrau fis Ebrill diwethaf, ond mae’r brwydro wedi lleihau ers y cadoediad fis yn ôl.