Chwilio am Becky Watts (Llun Heddlu Avon a Gwlad yr Haf)
Mae llysfrawd y ferch 16 oed, Becky Watts, a ddiflannodd o’i chartref ym Mryste fwy nag wythnos yn ôl wedi cael ei arestio ar amheuaeth o’i llofruddio.
Mae Nathan Matthews, 28 oed, yn cael ei gad wyn y ddalfa, ynghyd â’i bartner, Shauna Phillips, 21.
Cafodd y ddau eu harestio am y tro cynta’ ddydd Sadwrn ar amheuaeth o herwgipio.
Mae tri dyn a dwy ddynes arall yn eu hugeiniau wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Darnau o gorff
Ddoe, fe gyhoeddodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf eu bod wedi dod o hyd i ddarnau o gorff mewn tŷ yn y ddinas wrth chwilio am Becky Watts.
Dyw’r ferch ysgol ddim wedi cael ei gweld ers iddi adael ei chartref yn ardal St George o Fryste ar 29 Chwefror.
Fe fydd raid i swyddogion benderfynu y prynhawn yma i gyhuddo neu ryddhau Nathan Matthews a Shauna Phillips.