Y lori sbwriel wedi'r ddamwain yn Glasgow
Ni ddylai gyrrwr lori sbwriel, a oedd wedi colli rheolaeth o’r cerbyd gan ladd chwech o bobl yn Glasgow, gael ei erlyn, meddai Swyddfa’r Goron.

Roedd Harry Clarke, 58 oed, yn gyrru’r lori pan darodd yn erbyn siopwyr yn ninas Glasgow dridiau cyn y Nadolig y llynedd.

Dywedodd erlynwyr heddiw na ddylai’r gyrrwr na Chyngor Dinas Glasgow wynebu unrhyw gyhuddiadau.

Fe fydd ymchwiliad i achos y ddamwain yn cael ei gynnal “mor fuan â phosib” meddai llefarydd ar ran Swyddfa’r Goron.

Bu farw Erin McQuade, 18, a’i nain a’i thaid Jack Sweeney, 68, a’i wraig Lorraine, 69, o Dumbarton, yn y digwyddiad ar Ragfyr 22. Cafodd Stephenie Tait, 29, a Jacqueline Morton, 51, o Glasgow ynghyd a Gillian Ewing, 52, o Gaeredin, hefyd eu lladd.

Cafodd 10 o bobl hefyd eu hanafu.

Cafodd adroddiad yr heddlu ei anfon at erlynwyr ar 29 Ionawr a dywed Swyddfa’r Goron fod y penderfyniad heddiw yn dilyn ystyriaeth gofalus o’r adroddiad.