David Cameron
Mae David Cameron wedi amddiffyn hawl Aelodau Seneddol i gael ail swydd – gan fynnu bod modd gwneud gwaith ychwanegol ochr yn ochr â dyletswyddau etholaethol.
Yn ystod gwrthdaro yn y Senedd, fe wrthododd y Prif Weinidog alwadau Ed Miliband “i adfer enw da’r Tŷ,” drwy wahardd gwleidyddion rhag cael eu talu am fod yn gyfarwyddwyr, ymgynghorwyr neu rôl gydag undebau llafur.
Mae arweinydd y Blaid Lafur yn gorfodi pleidlais prynhawn ma yn sgil yr helynt ynglŷn â dau gyn ysgrifennydd tramor yr honnir oedd wedi derbyn arian am eu hamser.
Dywedodd David Cameron ei bod yn bwysig bod gan y Senedd bobl brofiadol ond bod yn rhaid cadw at y rheolau.
Rifkind a Straw
Daw’r bleidlais ddiwrnod ar ôl i Syr Malcolm Rifkind gamu o’i swydd fel cadeirydd y Pwyllgor Cudd-Wybodaeth a Diogelwch a chyhoeddi na fydd yn sefyll fel AS yn yr etholiad cyffredinol.
Daw hyn ar ôl i raglen Dispatches ar Channel 4 honni fod Malcolm Rifkind yn barod i dderbyn arian am ei amser, gan ddangos fideos o’r gwleidydd yn cyfarfod â busnes ffug o Tsieina.
Cafodd y cyn-ysgrifennydd tramor Jack Straw hefyd ei ddal ar gamera gan y rhaglen yn trafod defnyddio ei ddylanwad er budd cwmni preifat.
Ond mae’r ddau wedi gwadu’r honiadau gan ddweud nad oedden nhw’n torri unrhyw reolau seneddol wrth wneud hynny.
Mae Jack Straw wedi gwahardd ei hun o’r Blaid Lafur dros dro wrth i’r mater gael ei archwilio gan Gomisiynydd Safonau’r Senedd, ac mae’r Blaid Geidwadol gwahardd Malcolm Rifkind.
Mae Ed Miliband wedi manteisio ar yr helynt i alw unwaith eto am gyfyngiadau mwy llym. Mae ymgeiswyr Llafur eisoes wedi cael gwybod na fyddan nhw’n cael bod yn gyfarwyddwyr neu ymgynghorwyr cwmnïau os ydyn nhw’n cael eu hethol ym mis Mai, ac mae’r arweinydd wedi awgrymu cap o 10% ar enillion gan gwmnïau preifat.