Y tair merch sydd wedi hedfan i Dwrci
Mae cyfarwyddwr Sefydliad Cymru dros Faterion Mwslimaidd wedi galw am gyhoeddi canllawiau er mwyn helpu atal pobl ifanc Mwslimaidd rhag ffoi i ymladd yn y dwyrain canol.

Daw galwad Dr Masood Yousef wedi i dair merch ifanc hedfan i Dwrci wythnos ddiwethaf. Credir eu bod nhw ar eu ffordd i ymuno a’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Syria.

Mae perthnasau Shamima Begum, 15, Kadiza Sultana, 16, ac Amira Abase, wedi cyhoeddi apêl i’r merched ifanc gan alw arnyn nhw i ddychwelyd adref. Mae adroddiadau eu bod nhw wedi cael eu recriwtio gan eithafwyr ar y we.

Mae pennaeth y Bethnal Green Academy yn Llundain, lle’r oedd y tair yn ddisgyblion, wedi dweud nad oes tystiolaeth eu bod nhw wedi cael eu radicaleiddio tra yn yr ysgol.

Wrth i wleidyddion alw ar deuluoedd a chymunedau i fod yn wyliadwrus am arwyddion bod  brawychwyr yn dylanwadu ar ffrindiau a pherthnasau, mae Dr Masood Yousef eisiau rhagor o wybodaeth am ba gefnogaeth sydd ar gael i’r cyhoedd.

Dywedodd y byddai cyhoeddi canllawiau yn helpu teuluoedd i adnabod arwyddion rhybudd posibl ac yn awgrymu ble y gallen  nhw geisio cael cymorth.

‘Diffyg arweiniad clir’

Meddai Dr Masood Yousef: “Mae diffyg arweiniad clir ynglŷn â  beth i chwilio amdano a phwy i siarad gyda nhw os yw pobl yn pryderu am aelodau o’u teulu.  Os oes arweiniad o’r fath yn bodoli, nid yw’n cyrraedd y rhai sydd ei angen.

“Mae hyn yn bennaf yn fater diogelwch. Ni all teuluoedd a chymunedau  ddatrys y broblem hon ‘yn fewnol’. Does ganddyn nhw ddim yr arbenigedd proffesiynol ac yn aml does ganddyn nhw ddim y gallu i wneud gwrthddadleuon argyhoeddiadol i’r propaganda eithafol sydd allan yno.

“Efallai eu bod yn ofni ffonio’r awdurdodau neu efallai nad ydyn nhw’n cysylltu newidiadau mewn ymddygiad i rywbeth sinistr. Dim ond pan fydd y broblem yn mynd yn ddifrifol, neu mae perthynas yn mynd ar goll, maen nhw’n dod ymlaen – ac erbyn hynny, yn amlach na pheidio, mae hi’n rhy hwyr.”