Kay Swinburne ASE
Mae aelod blaenllaw o’r Blaid Geidwadol yng Nghymru wedi corddi’r dyfroedd ar ôl cael ei recordio yn gudd yn cynghori bancwyr i fod yn “ddyfeisgar” wrth feddwl am ffyrdd o osgoi cap ar eu taliadau bonws.
Roedd ASE y blaid, Kay Swinburne, yn siarad mewn cynhadledd yn Llundain pan ddywedodd bod y Ceidwadwyr yn gwrthwynebu rheolau newydd o Ewrop sy’n cyfyngu ar gyflogau bancwyr.
Dywedodd llefarydd ar ran Kay Swinburne bod ei sylwadau wedi eu tynnu o’u cyd-destun ond mae Llafur wedi beirniadu’r sylwadau yn hallt.
Roedd Kay Swinburne wedi gweithio yn y maes bancio cyn cael ei hethol yn ASE ac fe ddywedodd wrth gynulleidfa nad oedd ymdeimlad cyffredinol yn erbyn y cap ar daliadau bonws, gan annog bancwyr i feddwl am ffyrdd i’w osgoi.
“Roedden nhw’n meddwl ei fod yn iawn fod cap ar daliadau bonws. Felly mae angen i bobol eraill fod yn fwy dyfeisgar i osgoi’r cap ac rydw i’n clywed am bob math o gynlluniau sydd yn osgoi’r cap.”
‘Helpu bancwyr’
Yn ôl llefarydd Llafur ar Gymru, Owen Smith AS, mae gwir fwriad y Ceidwadwyr wedi dod i’r amlwg cyn yr etholiad cyffredinol:
“Tra bod teuluoedd yng Nghymru yn ei chael hi’n anodd ymdopi gyda chynnydd mewn costau byw ac mae cyflogau yma wedi lleihau o £2,200 o dan y Ceidwadwyr – maen nhw’n ceisio helpu bancwyr i wasgu rhai miliynau yn ychwanegol mewn taliadau bonws,” meddai.
Mae’r cap yn cyfyngu taliadau bonws i 100% o gyflog bancwyr, neu 200% os yw cyfranddalwyr yn cymeradwyo hynny.