Dewi Alter
Dewi Alter sydd yn credu bod mwy o wahaniaeth rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr nag y mae llawer yn ei gredu …
Mae’r holl bleidiau lleiafrifol yn cytuno bod y blaid Lafur a’r blaid Geidwadol yn rhy debyg bellach, wrth i aelodau’r pleidiau gael yr un addysg breifat, mynd i’r un prifysgolion adnabyddus a bod a chefndiroedd tebyg.
Yn ddiweddar fe ellir honni bod gwleidyddiaeth bellach yn gystadleuaeth rhwng rivals, yn debyg i beth welir mewn pêl-droed rhwng Lerpwl ac Everton er enghraifft. Pawb yn dod o’r un ardal, dilyn syniadau tebyg ond yn cefnogi’r naill ochr.
Mae Russell Brand wedi rhoi llawer o sylw i debygrwydd anffodus y pleidiau, sydd wedi arwain ato’n cael ei ddieithrio o wleidyddiaeth.
Ond pe baech chi yn ceisio apelio at wlad gyfan, oni fydd yn rhaid i chi gael cymaint o bolisïau cyffredinol ag sy’n bosib er mwyn cynyddu’r nifer o gefnogwyr y gallech chi eu denu?
Bwlch rhwng y ddau
Mae sawl un yn ddig â pha mor gymedrol yw’r pleidiau bellach. Ond ydi eu cymedroldeb nhw yn adlewyrchu pa mor ryddfrydol ydym ni yn y wlad hon?
Yn amlwg gwelwyd twf radicaliaeth dros y deunaw mis diwethaf, gyda’r Alban yn galw am annibyniaeth ond yn methu gan drwch blewyn, a thwf mewn cefnogaeth i’r blaid UKIP. Ym mhob cymdeithas gwelir radicaliaid, neu’r rheini sy’n anfodlon â’r drefn bresennol.
Ers 2010 fodd bynnag mae’r bwlch rhwng y pleidiau, y ddwy brif blaid yn benodol, wedi bod yn tyfu. Yn dilyn dewis Ed Miliband fel arweinydd – unigolyn llawer mwy asgell chwith na Gordon Brown a Tony Blair – mae rhai yn ystyried y Blaid Lafur heddiw fel ‘Llafur Newydd’.
Ers dod yn Brif Weinidog mae David Cameron wedi ymddangos yn fwy radical nag awgrymodd yn y ras etholiadol. Yn San Steffan heddiw, mae’n bwysig cofio bod y bwlch ideolegol rhwng y pleidiau yn fwy nag y bu erioed ers 1992.
Ar 7 Mai 2015, pan fydd pobl Prydain yn bwrw eu pleidlais, fe fyddan nhw’n dewis un o’r ddwy brif blaid a gweld syniadau cyferbyniol am sut y dylid rhedeg y wlad gan y ddwy brif blaid ym Mhrydain.
Gwelir bod Llafur eisiau cyflwyno ‘Treth ar Blasdai’, cadw Prydain yn Ewrop a gwneud toriadau o £7bn. Ar y llaw arall mae’r Ceidwadwyr eisiau osgoi codi trethi i’r cyfoethog, cynnal refferendwm ynglyn ag aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd neu adael, a gwneud toriadau o £33bn – swm anhygoel.
Er nad yw’r etholiad yma am Ewrop, gall dyfodol Prydain yn Ewrop ddibynnu ar yr etholiad ym mis Mai.
Ymddangosiad y pleidiau bach
Yn dilyn twf y pleidiau lleiafrifol, a’r ffaith eu bod am gael eu cynnwys yn y dadleuon teledu cyn bo hir, mae’n rhaid cofio y bydd y bwlch rhwng y prif bleidiau’n ymddangos yn llai.
Pam? Oherwydd nad yw’r prif bleidiau yn ymddangos mor radical o’i gymharu â’r pleidiau lleiafrifol sydd mewn gwirionedd ddim yn disgwyl ennill yr etholiad, ond yn hytrach am geisio dylanwadu arni.
Mae’r Blaid Werdd, yr SNP a Phlaid Cymru yn cael eu hystyried yn fwy asgell chwith na Llafur oherwydd y math o bobl y maen nhw’n ei gynrychioli.
Yng Nghymru, ble mae’r economi yn llawer gwannach o’i gymharu â Lloegr, bydd syniadau asgell chwith yn amlwg yn fwy poblogaidd. Y cwbl sydd angen i’r pleidiau hyn ei wneud yw ennill cefnogaeth eu carfan nhw, ac yn sgil hynny dylanwadu ar natur y llywodraeth ar ôl yr etholiad.
Gwelir bod UKIP ar y llaw arall yn llawer mwy asgell dde na’r Ceidwadwyr, ac fel ymateb i hynny mae’r Ceidwadwyr wedi troi yn fwy asgell dde.
Gan fod cymaint o Geidwadwyr yn gadael am blaid Farage, mae’n ddigon teg i gredu bod y ddwy blaid mwy neu lai’r un peth. Ond dydyn nhw ddim.
Mae UKIP yn bennaf yn boblogaidd ymysg yr henoed, a’r rheini sy’n gwrthwynebu mewnfudwyr o Ewrop.
Mae yna sawl un yn y blaid Geidwadol sydd yn ddigon bodlon i aros yn Ewrop – gwahaniaeth enfawr rhwng y pleidiau, oherwydd gadael Ewrop yw prif ffocws plaid Nigel Farage.
Gwahaniaeth ideoleg
Mae darganfod gwahaniaethau rhwng y pleidiau yn galed, yn enwedig wrth ystyried eu bod yn ceisio apelio at yr un bobl.
I ddechrau fe fyddwn ni wedi disgwyl dweud bod y Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr yn union yr un peth ond yn gwisgo lliwiau gwahanol.
Mae tebygrwydd rhwng y pleidiau wrth gwrs ar sail eu haddysg, cefndir a’u hacenion hefyd.
Fodd bynnag, mae’u hideolegau’n eu gwahanu nhw.