Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi rhybuddio y bydd mwy o israddio yn digwydd o fewn sefydliadau iechyd gogledd Cymru yn y dyfodol.

Daw sylwadau Darren Millar AC ar ôl i gyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Matthew Makin, ddweud y bore ‘ma bod sefydliadau iechyd y gogledd yn “cerdded mewn trwmgwsg i mewn i ddinistr”  os nad yw ysbytai yn gwneud newidiadau.

Wrth siarad â’r BBC, dywedodd bod cynlluniau i ganoli llawdriniaethau brys mewn dau ysbyty yn y gogledd yn lle tri.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr hefyd wedi cyhoeddi y bydd gwasanaeth ymgynghorol yn yr uned famolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd yn dod i ben  am flwyddyn o leiaf, ac y bydd yn rhaid i famau sy’n cael trafferthion wrth roi genedigaeth fynd i Ysbyty Gwynedd, Bangor neu Ysbyty Maelor, Wrecsam.

Arwydd clir

Dywedodd Darren Millar AC: “Fel mae pobol ledled gogledd Cymru yn paratoi i brotestio yn erbyn israddio gwasanaethau mamolaeth, mae’n arwydd clir bod mwy o doriadau ac israddio i ddod.

“Mae arweinyddiaeth y blaid Lafur wedi arwain at sefyllfa lle mae’n rhaid i reolwyr iechyd wneud toriadau amhoblogaidd a pheryglus, sy’n golygu y bydd cleifion yn teithio ymhellach.

“Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i ddadwneud y toriadau a gwneud yn siŵr bod y byrddau iechyd yn cynnal ac yn buddsoddi mewn gwasanaethau brys ym mhob ysbyty.”