Mae archfarchnad Asda wedi cyhoeddi cwymp o 2.6% mewn gwerthiant dros gyfnod y Nadolig o ganlyniad i gystadleuaeth chwyrn gan archfarchnadoedd eraill.
Mae’r prif weithredwr Andy Clarke yn dweud mai cystadleuaeth ffyrnig yn y farchnad sydd ar fai am y cwymp yng ngwerthiant y cwmni.
Bu gostyngiad o 1.6% mewn gwerthiant yn y chwarter blaenorol.
Mae Asda, Tesco, Sainbury’s a Morrisons yn brwydro yn erbyn archfarchnadoedd fel Aldi a Lidl er mwyn amddiffyn eu cyfran o’r farchnad.
Bu cwymp o 1% yng ngwerthiant Asda am y flwyddyn gyfan, y cwymp cyntaf ers 2008.
Dywedodd y Prif Weithredwr, Andy Clarke ei fod yn “berfformiad cadarn mewn marchnad anodd” gyda 2015 yn argoeli’n “flwyddyn heriol.”
Mynnodd Andy Clarke fod y chwarter diwethaf wedi gweld cynnydd “anghynaladwy” o ran bargeinion a chynigion arbennig gan gystadleuwyr.