Roedd dwy awyren filwrol yr Awyrlu wedi ymateb ddoe ar ôl i ddwy awyren fomio Rwsiaidd gael eu gweld oddi ar arfordir Cernyw, yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Bu’n rhaid i’r Awyrlu hebrwng y ddwy awyren Rwsiaidd oddi yno brynhawn ddoe am eu bod yn hedfan yn agos iawn i ofod awyr Prydain, meddai llefarydd.
Ychwanegodd: “Cafodd yr awyrennau o Rwsia eu hebrwng o’r safle gan awyrennau’r Awyrlu.
“Ni wnaethon nhw ar unrhyw adeg groesi i mewn i ofid awyr Prydain.”
Daw’r digwyddiad wrth i’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Michael Fallon, rybuddio bod yn rhaid i Nato fod yn barod am wrthdaro gyda Rwsia wrth iddo gydnabod bod tensiynau rhwng cynghreiriaid Nato a Moscow “yn poethi”.