Mae adroddiadau mai mam 25 oed oedd yn teithio yn ôl o Dwrci gyda’i mab ifanc gafodd ei harestio neithiwr ym maes awyr Heathrow ar amheuaeth o droseddau brawychol yn ymwneud a Syria.

Yn ôl adroddiadau ei henw yw Tareena Shakil, sy’n wreiddiol o Burton-upon-Trent, ac mae’n cael ei holi gan uned gwrth-frawychiaeth Heddlu’r West Midlands ar ôl cael ei harestio yn Llundain gyda’i mab blwydd oed am tua 9yh nos Fercher.

Cafodd ei harestio hefyd ar amheuaeth o gipio plentyn ac esgeuluso plentyn.

Dywed yr Heddlu nad oedden nhw’n credu ei bod hi’n peri bygythiad i’r rhai oedd yn teithio ar yr awyren gyda hi.

“Rydym yn amau ei bod wedi teithio i Brydain o Dwrci, ar ôl gadael Syria,” meddai llefarydd o’r heddlu.

Mae’n debyg ei bod wedi gadael Prydain y llynedd ar ôl dweud wrth ei theulu ei bod yn mynd ar wyliau i Sbaen.

Roedd hi wedi cysylltu â’i theulu’n ddiweddarach i ddweud ei bod wedi cyrraedd dinas Raqqa yn Syria.