Mae Ombwdsman Cenedlaethol Cymru wedi awgrymu y dylai bwrdd iechyd a meddyg teulu lleol ymddiheuro i wraig dyn wnaeth ladd ei hun ar ôl methiannau yn ei ofal.
Yn ôl adroddiad yr Ombwdsman, roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi methu ag asesu cyflwr iechyd meddwl y claf yn ddigonol ac wedi methu gofalu ei fod yn cael y gefnogaeth briodol ar ôl iddo adael yr ysbyty – er ei fod wedi cymryd gorddos o gyffuriau meddygol bythefnos ynghynt.
Roedd ei wraig, sy’n cael ei hadnabod fel Mrs X yn yr adroddiad, wedi cwyno am safon y gofal gafodd ei gwr gan y bwrdd iechyd a’i feddyg teulu lleol cyn iddo ladd ei hun ym mis Ionawr 2013.
Cefndir
Dywedodd yr Ombwdsman bod gan Mr X hanes o hunan anafu a gor-ddefnyddio alcohol a chyffuriau ond ei fod wedi derbyn cyffur benzodiazepines gan ei feddyg teulu, sy’n gallu gwneud pobol yn gaeth iddo.
Ychydig wythnosau yn ddiweddarach fe gymrodd orddos o’r cyffur ond fe gafodd adael yr ysbyty a’i adael i ddisgwyl am driniaeth cwnsela. Cyn iddo fedru derbyn cyngor, roedd wedi lladd ei hun.
Yn dilyn ei farwolaeth, fe wnaeth Mrs X dderbyn llythyr gan y bwrdd iechyd yn gwahodd ei gwr i apwyntiad cwnsela. Dywedodd bod hyn wedi achosi poen mawr iddi.
Yn ogystal ag ymddiheuro i Mrs X, mae’r Ombwdsman wedi cynghori’r bwrdd iechyd a’r meddyg teulu i dalu £1,500 yr un iddi.
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb y bwrdd iechyd.