Cameron Comey
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enw’r bachgen 11 oed maen nhw wedi bod yn chwilio amdano yn Afon Tywi ers dydd Mawrth.

Cafodd Cameron Comey o Gaerfyrddin ei weld y tro diwethaf yn chwarae gyda’i frawd ger yr afon yn ardal Tanerdy ger Caerfyrddin toc cyn 4 o’r gloch ddydd Mawrth.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a oedd yn yr ardal ger yr afon rhwng 2yp a 4yp ddydd Mawrth ac sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.

Mae’r heddlu, y gwasanaeth tân, gwylwyr y glannau, badau achub a thimau achub mynydd wedi ail-ddechrau chwilio amdano y bore ma.

Dywed yr heddlu y bydd deifwyr o Heddlu De Cymru yn ymuno yn y chwilio heddiw yn ogystal â hofrennydd yr heddlu.

Mae teulu’r bachgen yn derbyn cefnogaeth yr heddlu.