Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl i feiciwr gael ei ddarganfod yn dioddef o anafiadau difrifol ar ffordd wledig yn Wrecsam.
Cafodd Heddlu’r Gogledd eu galw gan y Gwasanaeth Ambiwlans tua 1.20pm brynhawn dydd Mawrth, i Hen Ffordd Wrecsam, Gresffordd.
Daethpwyd o hyd i’r beiciwr 75 oed yng nghanol y ffordd yn dioddef o anafiadau sy’n peryglu ei fywyd a chafodd ei gludo i’r ysbyty.
Meddai Rhingyll Jane Thomas o Uned Plismona’r Ffyrdd: “Does dim ar hyn o bryd yn awgrymu bod cerbyd arall yn rhan o’r digwyddiad hwn.
“Rwy’n apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad neu unrhyw un a welodd y beiciwr ar ei feic du a gwyn i gysylltu â’r Heddlu drwy ffonio 101. Dylid dyfynnu’r cyfeirnod S023045.”