John Ellis Roberts
Mae cwest i farwolaeth cyn-brif warden Parc Cenedlaethol Eryri, John Ellis Roberts, yn cael ei gynnal heddiw.
Bu farw’r mynyddwr profiadol John Ellis Roberts ar ôl syrthio 25 troedfedd wrth ddringo yn Ninas Cromlech ger Llanberis ym mis Gorffennaf y llynedd.
Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor ond bu farw cyn cyrraedd.
Roedd yn 70 oed ac wedi bod yn warden ar fynyddoedd Eryri am dros dri degawd, hyd at 1998.
Roedd hefyd yn aelod o Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen cyn iddo adael yn y 1970au i sefydlu tîm tebyg yn Llanberis.
Ar adeg ei farwolaeth, dywedodd Prif Weithredwr y Parc, Emyr Williams, y byddai “colled enfawr” ar ei ôl.